Psalms 103

Cariad Duw

Salm Dafydd.

1Fy enaid, bendithia'r Arglwydd!
Y cwbl ohono i, bendithia'i enw sanctaidd!
2Fy enaid, bendithia'r Arglwydd!
Paid anghofio'r holl bethau caredig a wnaeth.
3Mae wedi maddau dy fethiant i gyd,
ac wedi iacháu pob salwch oedd arnat.
4Mae wedi dy gadw di rhag mynd i'r bedd,
ac wedi dy goroni gyda'i gariad a'i drugaredd.
5Mae wedi rhoi mwy na digon o bethau da i ti,
nes gwneud i ti deimlo'n ifanc eto,
yn gryf ac yn llawn bywyd fel eryr!
6Mae'r Arglwydd bob amser yn deg,
ac yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu.
7Dwedodd wrth Moses sut oedd e am i ni fyw,
a dangosodd i bobl Israel beth allai ei wneud.
8Mae'r Arglwydd mor drugarog a charedig;
mor amyneddgar ac anhygoel o hael! a
9Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd,
nac yn dal dig am byth.
10Wnaeth e ddim delio gyda'n pechodau ni fel roedden ni'n haeddu,
na talu'n ôl i ni am ein holl fethiant.
11Fel mae'r nefoedd yn uchel uwch y ddaear,
mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy'n ei barchu.
12Mor bell ac ydy'r dwyrain o'r gorllewin,
mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela.
13Fel mae tad yn caru ei blant,
mae'r Arglwydd yn caru'r rhai sy'n ei barchu.
14Ydy, mae e'n gwybod am ein defnydd ni;
mae'n cofio mai dim ond pridd ydyn ni.
15Mae bywyd dynol fel glaswellt –
mae fel blodyn gwyllt, yn tyfu dros dro;
16pan mae'r gwynt yn dod heibio, mae wedi mynd;
ble roedd does dim sôn amdano.
17Ond mae cariad yr Arglwydd at y rhai sy'n ei barchu
yn para am byth bythoedd!
Mae e'n cadw ei air i genedlaethau o blant –
18sef y rhai sy'n ffyddlon i'w ymrwymiad,
ac sy'n gofalu gwneud beth mae e'n ddweud.
19Mae'r Arglwydd wedi sefydlu ei orsedd yn y nefoedd,
ac mae'n teyrnasu yn frenin dros bopeth!
20Bendithiwch yr Arglwydd, ei angylion! –
chi rai cryfion sy'n gwneud beth mae'n ddweud
sy'n gwrando ac yn ufudd iddo.
21Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl fyddinoedd! –
chi weision sy'n ei wasanaethu;
22Bendithiwch yr Arglwydd, bopeth mae wedi ei greu! –
ym mhobman ble mae e'n teyrnasu.
Fy enaid, bendithia'r Arglwydd!
Copyright information for CYM